Nid yw gwefan Fframweithiau Cydweithredol y De- ddwyrain a Chanolbarth Cymru yn casglu nac yn storio unrhyw wybodaeth bersonol am unigolion sy'n pori'r wefan, ac eithrio lle rydych yn dewis rhoi eich manylion personol i ni drwy'r cyfeiriadau e-bost ar y wefan. Y cyfeiriadau e-bost hyn fydd yr unig fan lle bydd y wybodaeth hon yn cael ei chasglu. Bydd y wybodaeth a ddarperir yn yr e-byst hynny'n cael ei defnyddio at y diben y'i casglwyd ar ei gyfer. Byddwn hefyd yn monitro unrhyw negeseuon e-bost a anfonir atom, gan gynnwys atodiadau ffeiliau, ar gyfer firysau neu feddalwedd maleisus. Byddwch yn ymwybodol bod gennych gyfrifoldeb i sicrhau bod unrhyw e-bost a anfonwch o fewn ffiniau'r gyfraith.
Gwybodaeth a gasglwyd ar gyfer cofrestru ar y wefan:
Wrth gofrestru i gael gweld dogfennau'r Fframwaith ar y wefan, bydd Fframweithiau Cydweithredol De-ddwyrain a Chanolbarth Cymru yn cael eu storio gan 'Reolwr Data' y Rheolwyr Fframwaith ar rwydwaith diogel Cyngor Caerdydd. Y wybodaeth a gesglir fydd enwau, cyfeiriadau e-bost a'r cyfrinair cychwynnol a roddir wrth gofrestru a bydd angen ei newid unwaith y bydd rhywun wedi mewngofnodi am y tro cyntaf. Caiff y wybodaeth ei datgelu yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data. Dim ond i'r Tîm Rheoli Fframwaith y darperir y wybodaeth hon a phryd nad oes ei hangen mwyach arnynt, byddant yn ei gwaredu mewn modd diogel.
Astudiaethau Achos
Bydd Fframwaith SEWTAPS yn cyhoeddi astudiaethau achos ar y wefan i ddarparu diweddariadau ac arfer da o'r gwaith a gyflawnir drwy'r Fframwaith. Bydd y Tîm Rheoli Fframwaith yn casglu data, astudiaethau achos a thystebau i roi cyhoeddusrwydd iddynt ar y safle. Bydd y Tîm Fframwaith yn gofyn am y data ac ni chaiff ei gyhoeddi heb ganiatâd ymlaen llaw gan y Contractiwr/Cleient neu'r Unigolyn perthnasol. Ni fydd y wybodaeth a roddir yn cynnwys unrhyw ddata personol.
Cyfryngau Cymdeithasol
Nid yw tudalennau cyfryngau cymdeithasol Fframwaith Cydweithredol y De-ddwyrain a Chanolbarth Cymru yn casglu nac yn storio unrhyw wybodaeth bersonol am unigolion ar wahân i weithgarwch a gesglir gan ystadegau'r gwesteiwr cyfryngau cymdeithasol megis nifer y bobl sydd wedi edrych ar neu ryngweithio â’r tudalennau. Ni fydd y Tîm Rheoli Fframwaith yn casglu unrhyw ddata o'r cyfryngau cymdeithasol oni roddir caniatâd gan yr unigolyn dan sylw ymlaen llaw.