Ymwadiad: Er bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gyhoeddus, fe'i bwriedir yn bennaf i'w defnyddio gan y cleientiaid a'r cyflenwyr a gymerodd ran yn y broses dendro ac sy'n rhwym wrth delerau'r cytundeb fel y nodir yn y cytundeb mynediad a'r canllawiau i ddefnyddwyr.

Mae Cyngor Caerdydd yn gwneud pob ymdrech i gynnal cywirdeb y wybodaeth ar y wefan hon ond ni all dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod a allai ddigwydd o ddefnyddio'r wybodaeth. Felly, mae eich defnydd o unrhyw wybodaeth neu ddeunyddiau ar y wefan hon ar eich menter eich hun.

Nid yw Cyngor Caerdydd yn rheoli ansawdd cysylltiadau allanol ac nid oes ganddo unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys safleoedd cysylltiedig o'r fath. Ni ddylid dehongli cynnwys enw unrhyw drydydd parti o fewn y tudalennau hyn fel argymhelliad o gynnyrch a / neu wasanaethau'r parti hwnnw.

Gall defnydd anawdurdodedig o'r wefan hon arwain at hawliad am iawndal a/neu fod yn drosedd.

Mae eich defnydd o'r wefan hon ac unrhyw anghydfod sy'n deillio o ddefnydd o'r fath yn ddarostyngedig i gyfreithiau Cymru a Lloegr.

Cyflwyno ffurflen ymholiadau yn ddiogel

Er mwyn cyflwyno eich Ffurflen Ymholiadau Ar-lein i ni i'w hystyried, mae angen i ni drosglwyddo eich manylion personol dros y rhyngrwyd. Rydym wedi rhoi prosesau ffisegol, electronig a rheoli addas ar waith i ddiogelu gwybodaeth o'r fath gan gynnwys defnyddio technoleg Amgryptio 128-did ddiogel (SSL).

Deddf Diogelu Data 1998 - Caniatâd ac Ardystio Manylion

Dim ond at ddiben ymateb i'ch ymholiad sy'n ymwneud â fframwaith caffael SEWTAPS y defnyddir y data personol a roddwch ar y ffurflen hon. Gellir ei ddefnyddio hefyd at ddibenion ystadegol ac yn arbennig ein polisi cydraddoldeb integredig. Bydd y data'n cael ei storio ar gyfrifiadur a/neu ffeiliau go iawn.

Er mwyn gweinyddu hyn gall Cyngor Caerdydd rannu eich data personol gyda Ffatri Gelf y Rhondda a'u sefydliad gwe-letya Amity Web Solutions.

Ni fydd eich manylion personol yn cael eu datgelu i unrhyw sefydliadau eraill heb eich caniatâd, ac eithrio pan fo dyletswydd statudol ar y Cyngor i ddatgelu neu oni bai ei fod yn gysylltiedig â Chyngor Caerdydd.

Drwy gyflwyno Ffurflen Ymholiadau Ar-lein rydych yn cadarnhau eich cydsyniad i Gyngor Caerdydd gofnodi a phrosesu'r wybodaeth a nodir yn eich ffurflen Ymholiad. Rydych hefyd yn cadarnhau bod y wybodaeth yn eich ffurflen gais yn gywir. Bydd ffurflenni ymholiadau yn cael eu cadw'n fyw am 12 mis gan y Cyngor ac yna'n cael eu dinistrio. Gall rhoi gwybodaeth ffug, yn ôl disgresiwn y Cyngor, arwain at atal eich defnydd o'r fframwaith neu derfynu eich contract.

Mae gan yr awdurdod hwn ddyletswydd i amddiffyn y cronfeydd arian cyhoeddus y mae'n eu gweinyddu, ac i'r perwyl hwn gall ddefnyddio'r wybodaeth a roddwyd gennych ar y ffurflen hon er mwyn atal a datgelu twyll. Mae’n bosibl y rhennir y wybodaeth hon â chyrff eraill sy’n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus at y dibenion hyn.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein Hysbysiad Prosesu Teg – Testun Cryno yn https://www.cardiff.gov.uk/CYM... a'r Hysbysiad Prosesu Teg – Testun Llawn ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru www.wao.gov.uk/whatwedo/1252.asp

 neu cysylltwch â’r: 
Swyddog Diogelu Data, Ystafell 356, Neuadd y Sir, Caerdydd, CF10 4UW Ffôn: (029 20873346.

Hawlfraint

Diogelir y safle hwn gan hawlfraint. Fe'i cyhoeddir gan Gyngor Caerdydd ac mae naill ai'n eiddo i'r Cyngor neu wedi'i drwyddedu iddo. Mae ar gael i chi ar delerau gan gynnwys (ac mae'r canlynol yn berthnasol i'r cyfan neu unrhyw ran o'r safle):

  • ei fod at eich defnydd personol yn unig;
  • ni chewch ei gopïo na'i drosglwyddo na'i atgynhyrchu fel arall na sicrhau ei fod ar gael ac eithrio i’w lawrlwytho ar un cyfrifiadur a'i weld at ddefnydd preifat yn unig;
  • efallai na fyddwch, ac eithrio gyda'n caniatâd ysgrifenedig datganedig ymlaen llaw, yn ei ddosbarthu na’n manteisio arno'n fasnachol; ni chewch ei ddarlledu na sicrhau ei fod ar gael ar rwydwaith heb ein caniatâd ysgrifenedig penodol ymlaen llaw;
  • mae’r defnydd ohono ar eich risg eich hun.