Cyflenwyr galluog sydd wedi cymhwyso ymlaen llaw

Mae ffocws cynyddol ar gyflawni lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol drwy’r ffordd y mae’r sector cyhoeddus yn rheoli ei weithgareddau caffael.
Mae SEWTAPS a'i Gyflenwyr wedi ymrwymo i'r Siarter Gwerth Cymdeithasol i gefnogi'r gwaith o gyflawni’r chwe maes blaenoriaeth allweddol sy'n cynrychioli ei werthoedd a'i gredoau;

Hyfforddiant a Chyflogaeth Leol
– creu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant cynhwysol i bobl leol er mwyn lleihau diweithdra a gwella lefel sgiliau ein gweithlu, yn enwedig mewn grwpiau targed megis pobl sydd wedi bod yn ddi-waith am gyfnodau hir.

Rhoi Cymru’n Gyntaf
– cofnodi’r effeithiau cymdeithasol ac economaidd o brynu’n lleol wrth gomisiynu a chontractio, a gofyn i’n cyflenwyr a’n contractwyr i wneud yr un peth.

Partneriaid mewn Cymunedau
– chwarae rôl actif yn y gymuned leol a chefnogi sefydliadau cymunedol, yn enwedig mewn ardaloedd a chymunedau sydd â’r angen mwyaf.

Gwyrdd a Chynaliadwy
– amddiffyn yr amgylchedd, lleihau gwastraff, lleihau’r defnydd o ynni a defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon.

Cyflogaeth Foesol
– defnyddio’r safonau moesol uchaf posibl wrth ein gwaith a gwaith ein cadwyni cyflenwi.

Hyrwyddo Lles Pobl Ifanc ac Oedolion sy’n Agored i Niwed
– gweithio gyda chefnogaeth y gymuned gyfan gan gynnwys busnesau lleol, gan ddiogelu a hyrwyddo hawliau plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n agored i niwed.

Ynghyd ag unrhyw ofynion deddfwriaethol a pholisi cysylltiedig ehangach.

Yn ogystal, gwnaed darpariaeth ar gyfer cynnwys buddion cymunedol yn y cam galw i ffwrdd.

Bydd y Fframwaith yn ceisio datblygu nifer o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol sy'n gysylltiedig â Gwerth Cymdeithasol o fewn ei Drefn Monitro ac Adolygu Perfformiad. Bydd rhai'n cael eu sefydlu ar lefel Fframwaith, o reidrwydd yn datganoli i brosiectau unigol a ddarperir o dan Gontractau yn ôl y Gofyn yn unol â'r Cytundeb. Gall tendrau ar gyfer Contractau yn ôl y Gofyn hefyd gynnwys Gwerth Cymdeithasol yng nghwmpas eu gofynion a/neu yn y meini prawf dyfarnu.

Rheolwyd y tendr ar gyfer SEWTAPS gan Gyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd a gwahoddwyd cyflenwyr i dendro ar 20 Tachwedd 2020. Dyfarnwyd contractau ar 7 Ebrill 2021 gyda’r contractwyr yn darparu amrywiaeth o wasanaethau technegol a phroffesiynol.

Dechreuodd fframwaith SEWTAPS ar 19 Ebrill 2021, i barhau tan 18 Ebrill 2025, am gyfnod o 4 blynedd, gydag opsiwn i ymestyn i 18 Ebrill 2027.


Lotiau SEWTAPS

Mae'r gwasanaethau sy'n cael ei wneud ar y fframwaith wedi'i rannu'n lotiau ac nid oedd unrhyw gyfyngiadau ar nifer y lotiau y gallai cyflenwyr wneud cais amdanynt

LOTIAU 1

Disgrifiad o’r Lot

Amlddisgyblaethol


Sgôp

Opsiwn Mewn-yn-Llwyr i'w ddefnyddio pan fo'n ofynnol i ymgynghorydd arweiniol neu reolwr prosiect gymryd cyfrifoldeb am y contractau ar gyfer yr holl wasanaethau gofynnol ar gomisiwn penodol a'u rheoli.

LOTIAU 2

Disgrifiad o’r Lot

Ymgynghorwyr peirianneg sifil a phriffyrdd


Sgôp

Darparu Ymgynghoriaeth Peirianneg Sifil a Phriffyrdd

LOTIAU 3

Disgrifiad o’r Lot

Ymgynghorwyr cludiant


Sgôp

Darparu ymgynghoriaeth cludiant

LOTIAU 4

Disgrifiad o’r Lot

Ymgynghoriaeth tir a dŵr


Sgôp

Darparu ymgynghoriaeth tir a dŵr

LOTIAU 5

Disgrifiad o’r Lot

Gwasanaethau Proffesiynol Ystadau a Datblygiadau Preswyl


Sgôp

Darparu ymgynghoriaeth Ystadau a Datblygiadau Preswyl

LOTIAU 6

Disgrifiad o’r Lot

Goruchwylio safleoedd


Sgôp

Darparu ymgynghoriaeth goruchwylio safleoedd

LOTIAU 7

Disgrifiad o’r Lot

Ymgynghorwyr hedfan


Sgôp

Darparu ymgynghoriaeth hedfan

LOTIAU 8

Disgrifiad o’r Lot

Ymgynghorwyr Daearyddol-Dechnegol


Sgôp

Darparu ymgynghoriaeth Daearyddol-Dechnegol

LOTIAU 9

Disgrifiad o’r Lot

Ymgynghoriaeth Archeolegol/Treftadaeth Ddiwylliannol


Sgôp

Darparu ymgynghoriaeth Archeolegol/Treftadaeth Ddiwylliannol

LOTIAU 10

Disgrifiad o’r Lot

Uwchgynllunio/ dylunio trefol


Sgôp

Darparu gwaith uwchgynllunio/ dylunio trefol

LOTIAU 11

Disgrifiad o’r Lot

Gwerthwr niwtral


Sgôp

Opsiwn Mewn-yn-Llwyr i'w ddefnyddio pan fo gofyn penodi, darparu a rheoli Gwasanaethau Proffesiynol Arbenigol.

Mwy o wybodaeth

Cysylltu  Ni

Atodi ffeil