Cwestiynau Cyffredin
Rydym wedi llunio'r cwestiynau cyffredin canlynol:
-
Beth yw Fframwaith?
Mae Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 yn cyfeirio at Fframwaith sy'n golygu "cytundeb rhwng un neu fwy o awdurdodau contractio ac un neu fwy o weithredwyr economaidd, a'u diben yw sefydlu'r telerau sy’n llywodraethu contractau sydd i'w dyfarnu yn ystod cyfnod penodol, yn enwedig o ran pris a, lle y bo'n briodol, y swm a ragwelir".
-
Pwy all ddefnyddio'r Fframwaith?
Mae'r fframwaith hwn yn agored i bob corff sector cyhoeddus ei ddefnyddio. Mae'r rhestr lawn o'r rhai sy'n gallu defnyddio'r Fframwaith i'w gweld yn yr Hysbysiad Contract. Cliciwch yma i weld yr Hysbysiad Contract.
-
A oes ffi ymuno i ddefnyddio'r Fframwaith?
Na, mae'r Fframwaith yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio.
-
Pwy yw'r cyflenwyr ar y rhestr?
Gweler yma am restr lawn o'r cyflenwyr.
-
Beth yw'r strwythur lotio a bandiau gwerth?
Gweler yma i weld y strwythur lotio.
-
Sut mae cael mynediad i'r dogfennau?
Gallwch weld y canllaw cyflym yma ac os ydych yn dymuno cael mynediad i'r gyfres lawn o ddogfennau, bydd angen i chi gwblhau'r cytundeb mynediad a'i gyflwyno i FframwaithYmgynghoriaeth@caerdydd.gov.uk lle bydd y Tîm Fframwaith wedyn yn anfon yr holl wybodaeth atoch.
- Pryd mae dyddiad dechrau a dod i ben y Fframwaith?
-
Pa fath o wasanaethau sy'n cael eu cynnwys yn y Fframwaith?
Lot 1: Amlddisgyblaethol
Lot 2: Ymgynghorwyr Peirianneg Sifil a Phriffyrdd
Lot 3: Ymgynghorwyr Cludiant
Lot 4: Ymgynghoriaeth Tir a Dŵr
Lot 5: Ystadau a Gwasanaethau Proffesiynol Datblygiadau Preswyl
Lot 6: Goruchwylio Safleoedd
Lot 7: Ymgynghorwyr Hedfan
Lot 8: Ymgynghorwyr Daearyddol-Dechnegol
Lot 9: Ymgynghoriaeth Archeolegol/Treftadaeth Ddiwylliannol
Lot 10: Uwchgynllunio a Dylunio Trefol
Lot 11: Gwasanaethau Gwerthwr Niwtral*Gellir cael rhagor o ddogfennau drwy e-bostio'r tîm ar FframwaithYmgynghoriaeth@caerdydd.gov.uk
- Gwasanaethau Ymgynghori Adeiladu,
- Corfforaethol, Polisi, Archwilio a Chyllid
- Caffael
- Gwerth Cymdeithasol
- Marchnata, y Cyfryngau a Chyfathrebu
- TGCh, Trawsnewid a Newid
- Addysg, Dysgu a’r Cwricwlwm
- Ymgynghoriaeth Ynni
- Gwasanaethau Gofal Oedolion
- Gwasanaethau Plant
- Masnacheiddio a Gwasanaethau Cyhoeddus
- Newid Sefydliadol a Rheoli Trawsnewid
- Rheoli Cyfleusterau
- Tai a Chymunedau
- Strategaethau Busnes
- AD
- Y Gyfraith
Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr a gall newid yn dibynnu ar ofynion pob cwsmer.
-
Allwch chi ddefnyddio'r Fframwaith ar gyfer prosiectau a ariennir?
Dyfarnwyd y Fframwaith drwy broses OJEU sy'n Cydymffurfio â'r UE yn unol â Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015. Gall y Tîm Fframwaith ddarparu dogfennau er mwyn cefnogi eich cais am gyllid.
-
A allwn gael copi o'r canllaw defnyddiwr?
Mae canllaw defnyddwyr cyflym ar gael ar y wefan. Mae canllawiau pellach ar gael - e-bostiwch y tîm ar FframwaithYmgynghoriaeth@caerdydd.gov.uk
-
A oes cwestiynau safonol o ansawdd ar gael?
Mae cwestiynau safonol o ansawdd ar gael ar gais. Mae'r Tîm Fframwaith yn annog gofyn cwestiynau sy'n benodol i’r prosiect ac yn edrych ymlaen er mwyn cael yr ymatebion gorau gan y cynigwyr am eich cynllun.
-
Beth yw'r pwysoliadau y gellir eu defnyddio mewn cystadlaethau bychain?
Gellir gweithredu’r pwysoliadau canlynol:
- 60% Pris a 40% Ansawdd/Technegol
- 50% Pris a 50% Ansawdd/Technegol
- 40% Pris a 40% Ansawdd/Technegol
- 30% Pris a 70% Ansawdd/Technegol
- 20% Pris a 80% Ansawdd/Technegol
-
A allaf ddyfarnu'n uniongyrchol?
Gallwch, mae dyfarniad uniongyrchol yn berthnasol i bob Lot. Er bod trothwy 150k a argymhellir, gall cwsmeriaid gynnig yn fwy na'r gwerth hwnnw. Gellir Dyfarnu’n Uniongyrchol a gallwch ddewis yn seiliedig ar angen sefydliadol, brys, lefel yr arbenigedd a gynigir, argaeledd, ansawdd, gwerth am arian ac amser ymateb sy'n dangos gwerth am arian.
-
Pa fathau o gontractau y gallaf eu defnyddio?
Mae'r Fframwaith yn cynnig amrywiaeth o fathau o Gontractau y gellir eu defnyddio:
- Telerau ac Amodau Ymgynghori Safonol
- Cytundeb gwasanaethau proffesiynol NEC4
- JCT - Cytundeb Gwasanaethau e-Adeiladu
-
Pa fethodoleg sgorio y mae rhaid i mi ei defnyddio?
Dyfarnwyd y Fframwaith ar fethodoleg sgorio 0-5 ar gyfer ansawdd, a methodoleg sgorio gyfartalog gul ar gyfer hysbysebion, ond nid ydym wedi nodi bod yn rhaid i chi ddefnyddio methodoleg benodol. Gallwch ddefnyddio methodoleg sgorio sy'n addas ar gyfer eich gofynion a'ch systemau tendro yn unol â Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015.
-
A oes unrhyw amserlenni o gyfraddau?
Oes o fewn y fframwaith. Mae Atodiad 3 yn manylu ar y cyfraddau fesul awr ac mae'r cyfraddau hyn yn gyfraddau uchaf na ellir rhagori arnynt.
-
Pwy sy'n gyfrifol am ofyn am y cod SEWTAPS unigryw ar gyfer pob dyfarniad uniongyrchol? Cwsmer neu Gyflenwr?
Mater i'r cwsmer yw cael hwn a rhaid iddo gwblhau atodiad 14 a'i anfon at Xxx i gael cyfeirnod unigryw SEWTAPS.
-
A ddylid gofyn am y cod SEWTAPS unigryw ar gyfer pob dyfarniad uniongyrchol yn ôl y gofyn pan fydd cyflenwr yn derbyn y cais am gwmpas/ffi, neu ar ôl i'r cleient a'r ymgynghorydd gytuno ar gwmpas/ffi?
Ar gyfer dyfarniadau uniongyrchol, ar ôl cytuno ar gwmpas/ffi ond cyn codi unrhyw Archeb Prynu.
-
Beth sy'n digwydd os nad ydych chi'n cael cod?
Mae hwn yn ofyniad gorfodol a bydd methu ei gael yn golygu y bydd trefniant yn ôl y gofyn ddim yn cydymffurfio â'r fframwaith.
-
Os na fyddwn yn derbyn trefniant yn ôl y gofyn gyda'r cais cychwynnol am gynnig, a allwch ddweud pwy o fewn yr awdurdod y dylem argymell i’n cleient drafod ag ef i gael cymorth gyda'r gwaith paratoi ar gyfer y trefniant yn ôl y gofyn?
E-bostiwch y tîm ar FframwaithYmgynghori@Caerdydd.gov.uk a gallwn gynorthwyo. Bydd cyfeirnod unigryw SEWTAPS yn cael ei anfon o fewn 4 awr o dderbyn atodiad 14 (amgaeedig) wedi'i gwblhau, felly ni ddylai arwain at unrhyw oedi.
-
A oes unrhyw fersiynau symlach o'r broses ar gyfer comisiynau llai? E.e. < £10k, < £50k.
Lle bo'n berthnasol gall cwsmeriaid agregu comisiynau llai ar gyfer prosiectau llai, lluosog a chael un geirda ar gyfer y rhain. Mae hwn wedi'i gynnwys ar y ffurflen sydd ynghlwm.
Fframweithiau Defnyddiol Eraill
![]() |
Goruchwylydd Safle Dynodedig Ymgynghoriaeth Eiddo Cynnig llwybr i gwsmeriaid gael mynediad at gyflenwyr a gymeradwywyd ymlaen llaw ar gyfer darparu Ymgynghoriaeth Dylunio Eiddo, Rheoli Prosiectau, Ymgynghoriaeth Costau ynghyd â gwasanaethau proffesiynol nad ydynt yn dod o dan Fframwaith SEWTAPS. FframwaithYmgynghori@Caerdydd.gov.uk |
![]() |
Fframwaith Adeiladu Cydweithredol De-ddwyrain a Chanolbarth Cymru (SEWSCAP): Mae SEWSCAP yn dwyn ynghyd arbenigedd contractwyr bach, canolig a mawr profiadol sydd wedi'u cymhwyso ymlaen llaw i ddarparu gwahanol waith adeiladu mewn ysgolion / adeiladau cyhoeddus, yn ogystal ag atebion modiwlaidd a symudol, sy’n werth dros £250k i £100m. www.sewscap.co.uk sewscap@caerdydd.gov.uk |
![]() |
Fframwaith Priffyrdd a Pheirianneg Sifil De-ddwyrain a Chanolbarth Cymru (SEWH) Mae SEWH yn dwyn ynghyd arbenigedd contractwyr bach, canolig a mawr profiadol sydd wedi'u cymhwyso ymlaen llaw i ddarparu gwahanol waith adeiladu peirianneg sifil a phriffyrdd, gan gynnwys gwaith cynnal a chadw, arwyneb a gwaith prosiect, gyda gwerthoedd hyd at £10m. www.sewh.co.uk sewpriffyrdd@caerdydd.gov.uk |
Cytundeb mynediad
Canllawiau Defnyddwyr
Contract Notices