Gwasanaeth Gwerthwyr Niwtral Rheoledig Lot 11 SEWTAPS

Prif amcan y Gwasanaeth Gwerthwyr Niwtral Rheoledig yw sicrhau darpariaeth Gwasanaeth Rheoledig diduedd o ansawdd uchel i gefnogi'r gwaith o ddarparu prosiectau ymgynghori/gweithwyr proffesiynol, ac sy'n cynnig gwerth am arian i Sefydliadau'r Sector Cyhoeddus a gwerth ychwanegol yn y gwasanaethau sy'n cael eu darparu. 

Bydd y GGNRh yn darparu ymgynghorwyr/gweithwyr proffesiynol drwy eu cadwyn gyflenwi a bydd yn brif bwynt cyswllt i ddarpar Gwsmeriaid.

Bydd y GGNRh yn gweithio gyda'r Cwsmer i ddeall y gofyniad er mwyn cyflawni'r prosiect gan sicrhau'r canlyniad gorau posibl a fydd yn cael ei gyflawni gan ymgynghorydd neu weithiwr proffesiynol. Gall Awdurdodau Contractio ddefnyddio'r gwasanaeth hwn ar gyfer gwasanaeth a reolir yn llawn ar gyfer eu holl anghenion ymgynghori a phroffesiynol, neu ofyniad trafodiadol/untro.

Mae'r darparwyr a benodir ar SEWTAPS yn cynnig cadwyn gyflenwi ddeinamig ac yn rhoi marchnad i sefydliadau'r sector cyhoeddus brynu gwasanaethau proffesiynol.

Mae’r canlynol ymysg y gwasanaethau a gynigir:

  • Darparu gwasanaeth caffael cyson a reolir sy'n cydymffurfio'n llawn,
  • Adnabod a chynefino â chyflenwyr, gan gynnwys cynefino a rheoli darparwr a enwir: hyblygrwydd i ychwanegu a dileu cyflenwyr,
  • Datblygu manylebau,
  • Rheoli contractau’n llawn,
  • Dyfarnu Contractau a Datganiad o Waith,
  • Darparu a chefnogi Prosiectau Proses Cyrchu a reolir yn llawn: mynediad i arbenigwyr mewnol i gwmpasu a diffinio eich prosiectau cyn mynd at y farchnad,
  • Seiliedig ar ganlyniadau sy'n golygu mai dim ond am yr hyn a gyflawnir y mae'r sector cyhoeddus yn talu,
  • Dysgu gwersi wrth o ddeilliannau llwyddiannus,
  • Darparu dogfennau safonedig a rhannu dysgu ac arfer gorau,
  • Cymorth i wneud penderfyniadau IR35,
  • Anfonebu wedi'i gydgrynhoi ac MI uwch.

Am restr lawn o wasanaethau y gellir eu prynu drwy'r fframwaith hwn, gweler y ddolen isod.

Gellir caffael y gwasanaethau canlynol drwy'r Gwerthwr Niwtral. Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr a gall newid yn dibynnu ar ofynion pob awdurdod contractio:

Gwasanaethau Proffesiynol / Ymgynghori
Construction Consultancy Service Gwasanaethau Plant
Corfforaethol, Polisi, Archwilio a Chyllid Masnacheiddio a Gwasanaethau Cyhoeddus
Caffael Newid Sefydliadol a
Gwerth Cymdeithasol Rheoli Trawsnewid
Marchnata, y Cyfryngau a Chyfathrebu Rheoli Cyfleusterau
TGCh, Trawsnewid a Newid Tai a Chymunedau
Addysg, Dysgu a’r Cwricwlwm Strategaethau Busnes
Ymgynghoriaeth Ynni AD
Gwasanaethau Gofal Oedolion Y Gyfraith

Sut i gaffael gwasanaethau

Yn gyntaf, bydd angen i chi gyflwyno'r cytundeb mynediad i gwsmeriaid (dolen) yn manylu ar eich bwriad i ddefnyddio'r fframwaith.

O dan SEWTAPS, mae dau opsiwn tendro caffael ar gael drwy lot 11: naill ai drwy ddyfarniad uniongyrchol neu drwy broses dendro gystadleuol fach i ddewis y darparwr gwasanaeth.

Gellir penodi'r Gwerthwr Niwtral penodedig ar gyfer gofyniad 'Gwasanaeth a Reolir yn Llawn' neu 'Untro':

1. Gofynion Trafodiadol/ Untro

Pwynt cyswllt unigol i'r cwsmer drwy gydol oes y datganiad o waith/prosiect, darparu cadwyn gyflenwi o arbenigwyr a dealltwriaeth o'r hyn y gellir ei gyflawni gan gwsmeriaid.

2. Datganiad o Waith/ Gwasanaeth a Reolir yn Llawn

Mwy ymarferol - Cefnogi'r cwsmer i sicrhau bod yr holl ddatganiadau o waith/prosiectau yn cyd-fynd â nodau ac amcanion penodol, pennu'r gofynion a thrafod sut rydych yn dymuno defnyddio ymgynghorydd/gweithwyr proffesiynol addas.

I gael gwybod mwy am SEWTAPS neu Lot 11 anfonwch e-bost at y tîm ar consultancyframework@cardiff.gov.uk